P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Archie’s Allergies, ar ôl casglu cyfanswm o 172 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Nid oes cyfraith yn bodoli yn unman yn y DU ar hyn o bryd sy'n cynnig addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion o oedran cynradd ac i fyny.
Rydyn ni eisiau newid hynny! Byddai cynnig sesiynau addysgol mewn ysgolion o fudd i blant sydd mewn perygl o anaffylacsis. Byddai'n helpu pobl eraill i ddeall alergeddau bwyd, sef cyflwr meddygol na fyddech yn ymwybodol o'i sgîl-effeithiau oni bai eich bod yn adnabod rhywun sydd â'r cyflwr.
Rydym yn gobeithio y byddai cyflwyno sesiynau addysgol ar alergeddau bwyd hefyd yn cael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â nhw, yn dileu bwlio ac yn cynnig rhagor o gefnogaeth i blant sydd â'r cyflwr hwn.
Y cyfan y mae'n ei gymryd yw un cyffyrddiad neu un tamaid, ac, heb ddefnyddio epi pen, gallech fod yn wynebu sefyllfa drasig iawn.
Byddai cyflwyno hyfforddiant 'epi pen ' gorfodol hefyd yn cael gwared ar y pryder i deuluoedd sydd â rhywun ag alergeddau bwyd. Byddai athrawon a staff ysgol yn gwybod beth yw arwyddion hanfodol adwaith alergaidd, ac felly byddai modd iddynt sylwi ar anaffylacsis yn gynt.
Mae Archie's Allergies yn elusen newydd sy'n cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth am bwysigrwydd bod yn ymwybodol o alergeddau.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· De Caerdydd a Phenarth
· Canol De Cymru